top of page
Photos of etched paving.jpg

Arcêd y Farchnad, Casnewydd

Arcêd y Farchnad - bydd adnewyddu Arcêd y Farchnad sy’n adeilad rhestredig Gradd II a’r ail arcêd hynaf yng Nghymru, yn darparu man gweithio hyblyg. Disgwylir i’r gwaith hwn gael ei gwblhau yn ystod Rhagfyr 2021 ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid i ddod o hyd i ddefnyddiau posibl newydd ar gyfer yr arcêd.

Hanes yr Arcêd

Arcêd Fennell oedd yr yn enw gwreiddiol arni, fe’i hadeiladwyd oddi ar y Stryd Fawr yn 1869, gan gysylltu'r orsaf reilffordd newydd (1850), Swyddfa'r Post (1844) a'r Farchnad Nwyddau (1862). 

Defnyddiwyd yr arcêd yn helaeth am dros ganrif, a chafodd ei chofio'n annwyl fel 'arcêd o flodau', nes i arferion siopa newid ac i ganolfan fanwerthu Casnewydd symud.

​​

Mae'r gwaith yn yr Arcêd wedi datblygu'n dda yn 2021, ac mae disgwyl i'r gwaith adfer gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae gwaith adfer i flaen y siopau bron wedi gorffen, ac mae gwaith cyfleustodau i'r Arcêd yn mynd rhagddo. 

​

Tra bo’r gwaith wedi bod yn mynd rhagddo, bu dau ddigwyddiad arbennig dros yr haf.

Cyflwynodd disgyblion o ysgol Gynradd Sant Gwynllyw gapsiwl amser i dîm y prosiect a gladdwyd yn ddiweddarach o dan loriau newydd yr arcêd. Mae tîm y prosiect wedi bod yn gweithio gyda'r ysgol ar amrywiaeth o weithgareddau, a'r canlyniad oedd cynhyrchu a chladdu'r capsiwl.

​

Roedd eitemau a gladdwyd yn y capsiwl yn cynnwys hen basbort, ffôn clyfar, stampiau gwylio a phostio, rhestr o pam y cafodd pob eitem ei chynnwys, a llythyr a ysgrifennodd y disgyblion at y dyfodol.

Cymerodd y prosiect ran hefyd yn nigwyddiad Drysau Agored Cadw ym mis Medi, a welodd gyfres gyfyngedig o deithiau o amgylch y safle ar gael i'r cyhoedd. Roedd perthnasau hen weithwyr a pherchnogion siopau yn yr arcêd ymhlith y rhai ar y teithiau ac yn cofio atgofion melys o'u hamser yn yr arcêd. Profodd y teithiau'n boblogaidd iawn, ac mae tîm y prosiect yn edrych ar redeg fwy ar ôl i'r gwaith adfer orffen.

​

bottom of page